Gwylio Adar yr Ysgol 2024
Diolch o galon i bawb a gymerodd ran yn nigwyddiad Gwylio Adar yr Ysgol yr RSPB. Mae'r canlyniadau wedi cyrraedd erbyn hyn, felly mae'n bryd i chi weld sut roedd eich ysgol yn cymharu â gweddill y DU.
On this page
Pa aderyn ddaeth i'r brig?
Mae Gwylio Adar yr Ysgol yn rhoi cip blynyddol ar sut hwyl mae rhai o'n hoff adar yn ei gael ar dir yr ysgol. Tarwch olwg i weld y deg aderyn a welwyd fwyaf yn nigwyddiad Gwylio Adar yr Ysgol eleni. Sut mae hyn yn cymharu â’r hyn welsoch chi ar dir eich ysgol?
Ni fyddai’r arolwg wedi bod yn bosibl heb i athrawon a disgyblion ddod yn ddinasyddion-wyddonwyr am y diwrnod. Diolch yn fawr!
Rhif Un Gwylio Adar yr Ysgol 2024
Ysguthan oedd wedi cyrraedd y brig eleni. Ysguthanod yw colomen fwyaf a mwyaf cyffredin y DU. Maen nhw i’w gweld yng nghefn gwlad, yn ogystal ag mewn trefi a dinasoedd. Gwrandewch am eu cŵan ailadroddus, mae rhai pobl yn cofio’r sŵn gyda’r ymadrodd ““My toe hurts, Betty”!
Rhif 2 i rif 10
Dalwch ati i ddysgu drwy fyd natur
Os oeddech chi wedi mwynhau Gwylio Adar yr Ysgol, tarwch olwg ar Her Wyllt yr RSPB. Mae hwn yn gynllun gwobrau sydd ar gael am ddim i ysgolion. Mae’n helpu plant i ymgysylltu â natur drwy gyfleoedd dysgu ymarferol. Drwy gymryd rhan yn Gwylio Adar yr Ysgol, rydych chi eisoes gam yn nes at ennill Gwobr Efydd. Byddwch chi’n cael llawer mwy o weithgareddau, yn ogystal â syniadau i greu mwy o le i fywyd gwyllt ar dir eich ysgol.