Advice
Calendr Natur: Ebrill
Mae’n fis Ebrill ac mae’r mudo mawr ar ei anterth, felly mae’n amser cadw llygad am lond gwlad o adar yn cyrraedd! Ewch ...
Diolch o galon i bawb a gymerodd ran yn nigwyddiad Gwylio Adar yr Ardd 2024 yr RSPB. Roedd dros 600,000 ohonoch wedi cymryd rhan ledled y DU, ond beth wnaethom ni ei ddysgu?
Bob blwyddyn, mae pobl yn cymryd rhan yn nigwyddiad Gwylio Adar yr Ardd yr RSPB drwy gyfrif yr adar maen nhw’n eu gweld yn eu hardal. Mae Gwylio Adar yr Ardd yn ei 45fed blwyddyn erbyn hyn ac yn cynnig cipolwg diddorol iawn ar sut mae adar yr ardd yn ymdopi.
Dechreuodd digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd ym 1979, pan ofynnodd Blue Peter, y rhaglen deledu i blant, i wylwyr nodi pa adar roedden nhw wedi eu gweld. Mae llawer wedi newid ers y 1970au. Ond beth sydd wedi newid i’n hadar? Pa adar sydd wedi symud i fyny’r siartiau a pha rai sydd wedi symud i lawr?
Aderyn y To yn dathlu ei unfed flynedd ar hugain ar frig siartiau Gwylio Adar yr Ardd. Y cymeriadau bach hyfryd hyn oedd yr adar a oedd yn cael eu gweld amlaf, a chofnodwyd 1,442,300 dros benwythnos Gwylio Adar yr Ardd 2024.
Eisteddwch yn ôl a mwynhewch ein ffilm fer lle rydym yn datgelu canlyniadau digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd 2024. Sut mae deg uchaf y DU yn cymharu â’r hyn welsoch chi yn eich sesiwn Gwylio Adar?
Mae Gwylio Adar yr Ardd yn dangos pŵer pobl yn dod at ei gilydd i weithredu dros fyd natur. Byddem wrth ein bodd petaech chi’n dod yn aelod.
Gostyngiad o 20% oddi ar docynnau gydag aelodaeth RSPB. Rydym wedi partneru gyda’r Amgueddfa Hanes Natur ar arddangosfa newydd na ellir ei cholli, sy’n dangos sut mae adar wedi defnyddio technegau gwych a ddiddorol i ffynnu am fwy na 150 miliwn o flynyddoedd.
Hoffech chi gael rhagor o wybodaeth? Gallwn ni eich helpu chi! O’r newyddion natur ac erthyglau arbenigol diweddaraf, i bethau i’w gwneud a digwyddiadau llawn hwyl, cymerwch olwg.
Drwy gofrestru ar gyfer e-byst yr RSPB, gallwch ddisgwyl - Derbyn y diweddariadau diweddaraf gan yr RSPB - I glywed popeth am ein gwaith i helpu bywyd gwyllt i ffynnu ledled y DU a thu hwnt - Awgrymiadau a chyngor cyfeillgar ar yr hyn y gallwch ei wneud i helpu i achub adar a thu hwnt. natur
Dewch yn aelod heddiw a chefnogi byd natur drwy gydol y flwyddyn. Pan fyddwch yn ymuno, cewch fwynhau mynediad am ddim i dros 170 o warchodfeydd natur, cylchgrawn i aelodau a phecyn croeso.
Mae byd natur mewn argyfwng. Mae eich rhoddion ariannol yn cefnogi ein gwaith i’w achub.
Prynwch rywbeth i chi eich hun, i rywun sy’n annwyl i chi, neu i fywyd gwyllt lleol. Pan fyddwch chi’n prynu, byddwch yn ariannu ein gwaith yn gweithredu dros natur.